Pont Menai

Croeso i wefan swyddogol Pont Menai

Mae UK Highways A55 yn falch o gynnal pont gysylltu fawr gyntaf y byd.

Pont Menai – wedi'i ddylunio gan Thomas Telford – ar 30 Ionawr 1826. Mae UK Highways A55 Ltd wedi bod yn falch o weithredu Pont Menai ers 1998 ac mae'r paratoadau bellach yn mynd rhagddynt yn dda cyn 200fed pen-blwydd Pont Menai.

I dderbyn diweddariadau am Bont Menai, cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr isod.

Diweddariad ar y Gwaith ar hyn o bryd

Mae Cam Dau o'r gwaith parhaol ar y gweill. Adolygwyd y rhaglen yn ystod saib ddiwedd 2025 er mwyn lleihau'r angen am reoli traffig. Dim ond am gyfnodau cyfnodol ar bwyntiau allweddol y bydd angen Rheoli Traffig bellach, yn hytrach nag yn barhaus, gan leihau'r effaith ar y gymuned leol a defnyddwyr y ffyrdd. Dechreuodd gwaith Cam Dau ym mis Ionawr 2026.

Gosodwyd ateb mwy parhaol i'r broblem â'r trawst croes ym mis Chwefror 2026. Ers hynny, mae'r system AeroTruss, sy'n caniatáu i offer gael ei storio o dan y bont ac sy'n cadw'r ddwy lôn ar agor, wedi'i gosod.

Mae gwaith bellach yn mynd rhagddo ar gorbelau, parapedau ac is-ddec y bont, ynghyd ag archwilio a phaentio'r berynnau. Mae'r bont yn parhau i fod ar agor i bob traffig o dan 7.5 tunnell, a bydd rhybudd ymlaen llaw yn cael ei roi cyn unrhyw gyfnod o reoli traffig.

 

Am y diweddariadau diweddaraf, ewch i'n tudalen Facebook

Cwestiynau
Cyffredin

Am y gwaith

Beth sy'n digwydd?

Rydym yn adnewyddu Pont Menai ac yn gwella diogelwch defnyddwyr y ffordd. Dechreuodd Cam Dau o'r gwaith ym mis Ionawr 2026 ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau yn y gwanwyn 2027. Mae'r cam hwn yn cynnwys:

Atgyweiriadau corbel:  atgyweirio'r corbelau concrit.

Goleuo: uwchraddio'r goleuo ar y bont.

Atgyweiriadau a phaentio'r parapet:  tynnu, atgyweirio ac ailbaentio'r parapetau.

Paentio'r is-dec:  chwythu graean ac ailbaentio'r gwaith metel o dan y dec.

Archwilio a phaentio'r berynnau:  archwilio a phaentio'r berynnau ger y tyrau.

A fydd y bont yn parhau ar agor yn ystod cam 2?

Bydd, bydd y bont yn parhau i fod ar agor i gerbydau sy'n pwyso llai na 7.5 tunnell.

Efallai fod angen cau un lôn ar y Bont o bryd i'w gilydd er mwyn cwblhau gwaith, gyda rheoli traffig wedi'i roi ar waith i gefnogi hyn. Mae pob cam wedi cael ei gymryd i leihau'r angen am reoli traffig a bydd cau lonydd yn cael eu cyfathrebu'n glir ymlaen llaw i leihau unrhyw darfu. 

Beth ddigwyddodd yn ystod cam 1?

Gwnaed gwaith Cam 1 ar ôl canfod diffygion yn hongwyr y Bont, sy'n cynnal y ffordd. Cafodd y rhain i gyd eu hamnewid a dechreuodd y gwaith ar 4 Medi 2023 a'i gwblhau ym mis Hydref 2024.

Pwy sy'n gwneud y gwaith?

Mae'r gwaith yn cael ei wneud gan UK Highways A55 Ltd, sy'n gweithredu ac yn cynnal y bont ar ran Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â phartneriaid cyflawni fel Spencer Bridge Engineering.

Rheoli traffig a cauiadau

Pam mae rheoli traffig a pham mae angen cau'r bont weithiau?

Fe wnaeth UK Highways A55 Ltd (UKH), gan weithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid lleol, oedi rhaglen wreiddiol Cam Dau ym mis Medi 2025 i adolygu'r angen am Reolaeth Draffig amser llawn (24/7, 365 diwrnod) ar MSB yn ystod y rhaglen flwyddyn o hyd.

Rydym bellach wedi mabwysiadu rhaglen ddiwygiedig sy'n lleihau'r angen am reoli traffig, gan gynnwys trwy storio offer o dan y bont. Dechreuodd y rhaglen newydd hon ym mis Ionawr 2026.

A fydd angen Rheoli Traffig ar adegau ar Bont Grog Menai o hyd?
Bydd. Oherwydd natur y gwaith a'i leoliad, bydd adegau yn y rhaglen pan fydd angen Rheoli Traffig ar Bont Grog Menai. Bydd UKH yn rhoi rhybudd ymlaen llaw ynghylch pryd y bydd y cyfnodau hyn yn digwydd.
Pam mae angen TM?

Mae Pont Menai yn safle gwaith, gyda chontractwyr yn gweithio bob dydd ar y Bont ac o dan y Bont. Mae angen Rheoli Traffig er iechyd a diogelwch y gweithwyr a'r aelodau o'r cyhoedd sy'n defnyddio'r bont.

Y cyfyngiad pwysau 7.5 tunnell

Pam mae cyfyngiad pwysau'r bont wedi'i gyfyngu i gerbydau o dan 7.5 tunnell?

Rydym yn defnyddio llwyfan arbennig o'r enw'r AeroTruss i helpu gweithwyr i baentio o dan Bont Menai. Mae'r llwyfan yn hongian o dan y bont, gan ei gwneud hi'n haws ac yn fwy diogel i'r gweithwyr gyrraedd y rhannau sydd angen eu paentio.

Dewiswyd yr AeroTruss oherwydd ei fod yn caniatáu i ni wneud y gwaith pwysig hwn tra'n achosi cyn lleied o aflonyddwch â phosibl. Gall ceir a cherbydau bach barhau i ddefnyddio'r bont, felly gall pobl barhau â'u teithiau yn haws.

Fel arfer, mae'r bont yn ddigon cryf i gario cerbydau trwm iawn, gan gynnwys lorïau mawr sy'n pwyso hyd at 44 tunnell. Fodd bynnag, tra bod yr AeroTruss yn ei le, mae'r bont eisoes yn cario pwysau ychwanegol o'r llwyfan a'r offer. Er mwyn cadw pawb yn ddiogel a diogelu'r bont, ni chaniateir i gerbydau dros 7.5 tunnell groesi.

Yr opsiwn arall fyddai defnyddio goleuadau traffig ar y bont drwy'r amser tra roedd y gwaith paentio yn digwydd. Digwyddodd hyn yn ystod gwaith tebyg yn 2005 ac fe achosodd lawer mwy o oedi i bobl oedd yn teithio ar draws y bont. Trwy ddefnyddio'r AeroTruss, gallwn gadw'r traffig yn symud yn fwy esmwyth tra bod y bont yn cael ei chynnal a'i chadw.

Beth fyddai'n digwydd pe bai cerbyd dros 7.5 tunnell yn croesi Pont Menai?

Gallai cerbyd sy'n or-bwysau achosi difrod sylweddol i gysylltiadau allweddol rhwng y priddprif ddec a'r trysau dur sy'n ei gynnal. Os bydd cerbyd sy'n rhy drwm yn croesi'r bont, rhaid i beirianwyr gynnal archwiliadau diogelwch ar unwaith i sicrhau nad oes unrhyw ddifrod wedi'i achosi.

Pe bai hyn yn digwydd, byddai angen cau'r bont yn llwyr am gyfnod estynedig er mwyn gwneud gwaith atgyweirio.

Felly mae'n hanfodol bod holl ddefnyddwyr y bont yn parchu'r cyfyngiad pwysau 7.5 tunnell.

Clustogau cyflymder

Pam mae Clustogau Cyflymder ar rychwannau mynediad y bont?

Rydym wedi gosod clustogau cyflymder dros dro ar y fynedfa garreg i Bont Grog Menai. Fe'u gosodwyd ar ôl digwyddiad bron-â-tharo ar y bont lle collodd cerbyd reolaeth a tharo rhai o hongwyr y bont. Daeth y cerbyd hefyd i mewn i'r ardal lle'r oedd ein tîm yn gweithio. Mae'r clustogau cyflymder yn eu lle er diogelwch pawb sy'n defnyddio'r bont ac yn gweithio arni.

Mae'r clustogau cyflymder yn gweithio'n dda. Mae cyflymderau cyfartalog wedi gostwng yn unol â'r terfyn 20mya. Mae hyn yn gwneud y bont yn fwy diogel ac yn golygu llai o achosion o gau.

Ydy'r Clustogau Cyflymder yn achosi dirgrynu ar y bont?
Na. Mae'r clustogau cyflymder wedi'u gosod ar y ffyrdd at y Bont ac nid ar y groesfan ei hun.
A yw'r Clustogau Cyflymder yn Gyfreithlon?
Cynhaliwyd Archwiliad Diogelwch Ffyrdd GG 119 gennym cyn gosod y clustogau cyflymder. Nododd yr archwiliad y dylai'r clustogau cyflymder fynd yn y parth 20mya. Fel arfer mae rheol yn erbyn clustogau cyflymder o fewn 25 metr i bont. Canfu'r archwiliad nad yw'r rheol hon yn berthnasol o dan Reoliad 7. Nid oes angen Caniatâd Adeilad Rhestredig arnom chwaith.

Cyfyngiad uchder

Pam mae cyfyngiad uchder ar y bont?

Rhoddwyd y cyfyngiad uchder 3m ar waith fel ffordd ychwanegol o atal cerbydau sydd dros eu pwysau. Mae mwyafrif y cerbydau sy'n fwy na 7.5 tunnell yn dalach na 3m.

Mae’r cyfyngiad uchder a osodwyd yn cynnwys byntin gweladwy iawn yn lle rhwystr ffrâm dur. Mae wedi’i ddylunio mewn modd a fydd yn golygu y bydd yn torri os bydd rhywbeth yn taro yn ei erbyn. Gallai beri risg o ran diogelwch i ddefnyddwyr y ffordd a cherddwyr.

Pam nad yw'r cyfyngiad uchder ar y ffordd at Bangor wedi'i osod yng nghylchfan Antelope?

Mae'r cyfyngiad uchder wedi'i osod ar ddechrau'r ffordd agosáu er mwyn lleihau'r effaith ar fusnesau a chyfleusterau lleol gymaint â phosibl.

Mae nifer o fusnesau wedi'u lleoli yn ardal Treborth Gardens sy'n derbyn danfoniadau gan gerbydau dros 7.5 tunnell a 3m o uchder. Mae angen mynediad i'r Arena 3G yn Treborth ar fysiau hefyd.

Byddai cyfyngiadau uchder a osodir yng nghylchfan Antelope yn effeithio'n ddiangen ar y cerbydau hyn.

Pam nad yw rhwystr uchder ffrâm ddur wedi'i osod ar y bont?

Rydym wedi edrych ar osod rhwystr uchder dur sefydlog ar y bont, fel mesur ataliol ychwanegol i geisio atal cerbydau dros 7.5 tunnell rhag croesi. Yn dilyn cyfres o ymchwiliadau, gan gynnwys Archwiliad Diogelwch Ffyrdd annibynnol, ystyriwyd ei fod yn anaddas am nifer o resymau.

 

  • Mae angen i Erddi Treborth a Maes Chwaraeon Prifysgol Bangor barhau ar agor er mwyn i fysiau a cherbydau nwyddau trwm (HGV) gael mynediad. Ystyriwyd gosod rhwystr ar gylchfan yr Antelope yn anaddas gan y byddai hyn yn atal defnyddwyr rhag cyrraedd y caeau chwarae a busnesau yn yr ardal honno.
  • Byddai gosod rhwystr i ffwrdd o gylchfan yr Antelope yn lleoliad y cyfyngiad uchder presennol, ychydig ar ôl cyffordd Gerddi Treborth, yn gofyn i gerbydau sy'n rhy dal orfod encilio'n bell iawn, gan achosi llawer o aflonyddwch ac oedi.
  • Mae nifer o gerbydau sydd wedi'u cofrestru yn y DU sy'n llai na 3m ac sy'n gallu cario pwysau ffordd refeniw dros y cyfyngiad pwysau 7.5 tunnell a fyddai'n croesi Pont Menai o hyd o dan gyfyngiad uchder 3 metr, ac a allai wneud hynny.
  • Mae'r gosodiadau cyfyngu uchder presennol ar y ffyrdd o Fangor ac Ynys Môn wedi cael eu taro ac mae'r faneri wedi torri sawl gwaith pan fydd cerbydau sydd o dan 7.5 tunnell wedi mynd oddi tano. Mae'r rhain yn cynnwys cerbydau nwyddau ysgafn, cerbydau SUV, carafanau a faniau sy'n cario offer ar eu pennau.
  • Pe bai cerbyd yn taro'r rhwystr uchder, mae risg sylweddol y gallai cwympo drosodd, gan daro cerbydau eraill, defnyddwyr y ffordd a cherddwyr. Gallai hyn achosi anaf ac fe fyddai'r ddwy lôn yn cael eu cau tra byddai'r cerbyd yn cael ei adfer a'r rhwystr yn cael ei hail-osod. Byddai hyn yn rhoi defnyddwyr mewn perygl sylweddol a byddai'n cymryd amser sylweddol i'w dynnu, eu newid neu eu hatgyweirio yn meddwl fydd angen cau'r bont yn anniswgyl.
  • Byddai'n rhaid cynnal archwiliadau cynnal a chadw ac archwiliadau wythnosol ar unrhyw strwythur sefydlog ar draws y ffordd gerbydau, gan arwain at gyfnod o gau'r ddwy lôn ar y bont ar ochr Bangor ac ar ochr Ynys Môn yn ystod yr archwiliadau.  
  • Nid yw rhwystrau cyfyngu uchder uwchben yn gyffredin ar y briffordd gyhoeddus yn y DU oherwydd y risgiau y maent yn eu cyflwyno. Mae achosion wedi'u cofnodi lle mae gyrwyr wedi anwybyddu rhybuddion cyfyngiad uchder yn y DU ac wedi achosi taro pontiau ar gerbydffyrdd uwchben eraill a phontydd rheilffordd.

Mesurau traffig parhaus

Pa fesurau traffig eraill fydd yn cael eu gosod ar y bont er mwyn ei chadw ar agor?

Mae UKH a ChyM yn monitro effaith ac effeithiolrwydd mesurau traffig yn gyson a byddant yn diwygio mesurau pe bai angen.

Mae'n hanfodol bod defnyddwyr y ffordd yn cadw at y mesurau a'r arwyddion sydd ar waith er mwyn galluogi i'r bont barhau ar agor.

A all cerbydau brys deithio dros Bont Menai yn ystod gwaith cam 2?

Bydd modd i gerbydau brys sy'n pwyso llai na 7.5 tunnell groesi'r bont yn ystod Cam 2, 

Mae trefniadau penodol ar waith ar gyfer senarios brys ac mae UK Highways A55 wedi datblygu Polisi Goleuadau Glas gyda gwasanaethau brys lleol i sicrhau y gall cerbydau gyrraedd y lleoedd y mae angen iddynt gyrraedd.

Beth sy'n digwydd os caiff Pont Britannia ei chau?

Mae'n anghyffredin i Bont Britannia yr A55 gau. Os bydd yn cau, dim ond am ychydig oriau fel arfer y bydd hynny.

Pan fydd gwyntoedd cryf, argymhellir nad yw rhai mathau o gerbydau yn croesi yn ystod amodau penodol.

Ar ôl adolygiad strategaeth, mae cyfyngiadau cyflymder gwynt wedi newid ar gyfer rhai mathau o gerbydau. Felly dylai'r bont aros ar agor i fwy o gerbydau, yn amlach a bydd unrhyw gau'n digwydd am gyn lleied o amser ag sy'n bosibl. Mae hyn wedi helpu Cerbydau Nwyddau Trwm (HGV) i barhau i groesi Pont Britannia yr A55 yn ystod digwyddiadau tywydd garw. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ymchwilio i opsiynau i liniaru effaith gwyntoedd cryf ar Bont Britannia hefyd. 

Yn ystod gwaith Cam 2, bydd Pont Menai yn parhau i ganiatáu i gerbydau sy'n pwyso llai na 7.5 tunnell groesi'r bont. Ni ddylai cerbydau nwyddau trwm a cherbydau eraill sy'n pwyso dros 7.5 tunnell ddefnyddio Pont Menai ar unrhyw adeg, gan gynnwys pan fydd Pont Britannia ar gau. 

Pa gefnogaeth sydd ar gael i fusnesau?

Anogir busnesau i gael cymorth trwy wasanaeth pwrpasol Busnes Cymru: Busnes Cymru: cefnogi busnesau yng Nghymru. Busnes Cymru: cefnogi busnesau yng Nghymru.

Mae llawer o fusnesau llai eisoes yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi o 100% ym Mhorthaethwy. Yn ystod gwaith cam 1, nododd Cyngor Sir Ynys Môn 30 o fusnesau ychwanegol ym Mhorthaethwy a oedd yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi o dan y cynllun rhyddhad ardrethi manwerthu, hamdden a lletygarwch. Gwahoddodd y Cyngor y busnesau hynny i wneud cais.

Os credwch y gallai eich busnes fod yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi, cysylltwch â Chyngor Sir Ynys Môn i drafod ymhellach. Mae gwybodaeth gyswllt bellach, gan gynnwys ffurflenni cais ar gael yn Cyngor Sir Ynys Môn: Cynllun rhyddhad ardrethi manwerthu, hamdden a lletygarwch..

Gallai busnesau sy'n atebol am ardrethi annomestig fod yn gymwys i wneud cais i Asiantaeth y Swyddfa Brisio am ostyngiad dros dro yn y gwerth trethadwy. I ddarganfod mwy, ewch i: GOV.UK: Darganfyddwch brisiad ardrethi busnes..

Ymgysylltu â'r Gymuned

Mae UK Highways A55 Ltd a Llywodraeth Cymru yn darparu diweddariadau rheolaidd i randdeiliaid lleol a thrigolion lleol. 

Ers dechrau'r gwaith parhaol ym mis Medi 2023, cynhaliwyd cyfarfodydd briffio rheolaidd gydag arweinwyr etholedig lleol. Mae'r cyfarfodydd hyn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid am gynnydd y rhaglen waith barhaol ac yn darparu fforwm lle gellir codi ac ateb cwestiynau.

Mae UK Highways A55 Ltd hefyd yn cyhoeddi cylchlythyrau cyfnodol ar gynnydd y gwaith er mwyn darparu crynodeb mwy manwl o'r gwaith i ddefnyddwyr Pont Menai. 

Mae UK Highways A55 Ltd yn falch o gefnogi Clwb Criced Pont Menai a Chlwb Rygbi Llangefni ar gyfer tymor 2025/26 ac Amgueddfa Treftadaeth Menai.

Mae UK Highways A55 Ltd yn cefnogi'r genhedlaeth nesaf o beirianwyr yng ngogledd Cymru. Mae ymweliadau diweddar, a drefnwyd trwy Asiant Prif Ffordd Gogledd a Chanol Cymru (NMWTRA), wedi caniatáu i brentisiaid lleol weld y gwaith yn uniongyrchol.

Rhaglen y Gwaith Parhaol – Llinell Amser

Ar ôl cwblhau'r gwaith parhaol

  • Bydd y cyfyngiad pwysau 7.5T yn cael ei ddiddymu
  • Bydd y bont wedi'i hadnewyddu'n llawn a'i chadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol

Hanes Pont Menai

Mlynedd o dreftadaeth

Yn 1810, penodwyd Thomas Telford i arolygu'r ffordd o Amwythig i Gaergybi ac yn 1815 cafodd ei gomisiynu i wella'r llwybr cyfan o Lundain i Gaergybi, yn cynnwys gwaith mawr fel Pont Waterloo ym Metws-y-coed, Bwlch Nant Ffrancon yn Eryri, Arglawdd Stanley ger Caergybi ac, wrth gwrs, Pont Menai. Y peirianydd preswyl ar gyfer Pont Menai oedd William A. Provis.

The first stone was laid on 10 August 1819 and the entire construction was completed on 30 January 1826. The bridge spans 176m in length and its roadway is set to allow 100 feet of clearance space beneath for tall ships.

Yn 2019, cynhaliwyd dathliad gan Ymddiriedolaeth Treftadaeth Gymunedol Pont Menai i goffáu gosod y garreg gyntaf.

200fed Mlwyddiant Pont Menai

Mae Pont Menai
yn troi'n 200 oed

Cyrhaeddodd Pont Grog Menai ei 200 mlwyddiant ym mis Ionawr 2026. I nodi'r carreg filltir, datgelwyd plac coffa yn agos at y bont, gyda chefnogaeth UK Highways A55 Ltd a Llywodraeth Cymru.

Mae darnau arian coffa, a gaewyd o'r hongwyr a dynnwyd yn ystod y cam blaenorol o'r gwaith, yn cael eu dosbarthu gan drefnwyr lleol, gan gynnwys i ysgolion lleol.

Mae dathliadau pellach wedi'u cynllunio ar gyfer 8 Awst 2026, pan fydd gŵyl y ddau ganmlwyddiant am ddim yn cael ei chynnal, gyda gorymdaith, llwyfan gŵyl, stondinau, teithiau cerdded a cherddoriaeth fyw. Bydd y manylion terfynol yn cael eu rhannu cyn y digwyddiad.

Rhanddeiliaid Cysylltiedig

Darganfod Mwy am Sarn Menai

I ddysgu mwy am y bont hanesyddol hon, Sarn Menai, a datblygiad cysylltiadau rhwng Ynys Môn a Bangor yng Nghymru, ewch i Amgueddfa Treftadaeth Menai. Amgueddfa Treftadaeth Menai.

A wyddech chi?

  • Dylunydd y bont oedd y peiriannydd sifil Albanaidd, Thomas Telford.
  • Penodwyd William A. Provis yn beiriannydd preswyl ar gyfer y prosiect
  • Gosodwyd y garreg gyntaf ar 10 Awst 1819
  • Cwblhawyd Pont Menai ar 30 Ionawr 1826
  • Mae'r Bont yn cysylltu Bangor, Cymru ag Ynys Môn dros bellter o 176m
  • Yn wreiddiol, cawsai’r bont ei chynnal gan bedair set o bedair cadwyn haearn
  • Mae'r ffordd wedi'i gosod 100 troedfedd uwchlaw’r Penllanw Cymedrig i ddarparu lle i longau uchel
  • Cynhaliwyd gwaith adfer sylweddol rhwng 1938-1940. Roedd hyn yn cynnwys gwaith ar ddwy set o ddwy gadwyn, y llawr a'r llwybrau troed

Amgueddfa Treftadaeth Menai

Mae gan Amgueddfa Treftadaeth Menai amgueddfa achrededig sy'n arddangos hanes diwydiant y Fenai ynghyd â'i dwy bont enwog.

Oriau Agor

Mae ar agor ar ddydd Mercher a dydd Iau rhwng Mehefin ac Awst

Lleoliad

Canolfan Thomas Telford Centre
Ffordd Mona
Porthaethwy
LL59 5EA